Llanfyllin Un o’r pethau gwaethaf (a
doedd yna fawr ddim o bethau da !) ynglyn â thlotai oes Fictoria
oedd fod teuluoedd yn cael eu gwahanu’n llwyr,
gyda dynion, merched a phlant yn cael eu cadw mewn gwahanol rannau o’r
adeilad. Roeddynt wedi’u hadeiladu mewn ffordd i wneud hyn yn haws i’w
rheoli, a hefyd i ddarparu iardiau wedi’u cau
ar gyfer y gwahanol grwpiau. Er bod y rhan fwyaf
o dlotai’n edrych yn frawychus iawn,
a dyna’i bwriad, roedd gwaith mwy urddasol ar un ochr i rai ohonynt. Mae’r
gwaith cerrig o amgylch y ffenestri yn Llanfyllin
yn help i wella golwg yr adeilad, ond yn fwy na thebyg ychydig iawn o
help a roddodd i’r bobl anffodus y tu mewn !
Tloty'r Undeb
Wedi’i
greu gyda’r bwriad o gadw teuluoedd ar wahân !
Mae’r rhan yma o’r map yn dangos siâp tloty Llanfyllin,
oedd yn llai na rhai tebyg o’r un cyfnod.
fap Arolwg
Ordnans
yn 1904
Roedd
Meistr y tloty a’i deulu’n byw mewn
bloc yng nghanol yr adeilad.
Defnyddiwyd yr Ystafell Fwrdd ysblennydd
yn y tloty ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd o’r Bwrdd o Warcheidwaid !
Undeb
Llanfyllin