Llanfyllin
Tloty'r Undeb
  Plentyn tlawd yn dysgu sut i wehyddu  
 

Roedd y tloty yn cael ei reoli gan 'Bwrdd y Gwarcheidwad', a oedd yn aelodau pwysig o’r gymuned, yn dirfeddianwyr ac yn glerigwyr gan fwyaf. Y Bwrdd oedd yn penodi Meistr y tloty a staff arall, gan wneud penderfyniadau ynglyn a’r bobl oedd yn byw yn y tloty. Cofnodwyd y penderfyniadau gyda llaw mewn 'Llyfrau Cofnod' mawr sy’n sôn am yr hyn a benderfynwyd yn y cyfarfodydd rheolaidd yn nhloty Llanfyllin. Roedd llawer o’u rheolau’n ymwneud ag arbed arian. Ac roedd y rhain yn cynnwys anfon plant y tloty allan i weithio cyn gynted ag yr oeddynt yn gallu...

Er mwyn cael gwybod mwy ynglyn â gwehyddu a gwneud defnydd edrychwch ar ein tudalennau ar Lanidloes
29 Awst
1872
Minute book entry
10 Hydref
1872
Minute book entry
 

Mae’r darnau yma o 1872 wedi dod o Lyfr Cofnod Undeb Llanfyllin -
29 Awst - "Resolved that William Pugh, a pauper child in the workhouse be [ordered] to go to [to] Mr Evan Evans Factory, Llanfyllin on trial for a month".
10 Hydref - "Resolved that William Pugh, a pauper child belonging to this Union be bound an apprentice to Mr Evan Evans of of the Upper Factory, Llanfyllin for 5 years to learn the trade of a weaver, that he be allowed a premium of £4.0.0"

Mae’n rhaid fod y William Pugh ifanc wedi gweithio’n dda pan gafodd ei anfon i ffatri wehyddu am fis, oherwydd cafodd ei anfon yn ôl yno’n fuan wedyn i ddechrau dysgu’r grefft o wehyddu am gyfnod o 5 mlynedd.
Yn anfodus nid oedd llawer o ddyfodol i’r diwydiant yn yr ardal erbyn y cyfnod yma oherwydd y gystadleuaeth o ffatrïoedd mwy o faint yng ngogledd Lloegr.
Pan oedd prentisiaid yn cael eu hanfon i ffwrdd i ddysgu sgil nid oeddynt bob amser mewn lle gwell na’r tlotai ofnadwy, fel y gallwch chi weld ar y dudalen nesaf...

Cwestiynau i’r teiliwr o Feifod...

Mae Cyfrifiad 1871 ar gyfer tloty Llanfyllin yn dangos mai dim ond 8 mlwydd oed oedd William Pugh bryd hynny ! Felly cafodd fynd fel prentis pan oedd ddim ond yn 9 neu 10 mlwydd oed yn 1872 !