Llanfyllin
Tloty'r Undeb
  Prentis y teiliwr  

Roedd y Bwrdd o Warcheidwaid yn awyddus iawn i anfon plant i ffwrdd fel prentisiaid pan yn ifanc iawn oherwydd roedd hyn yn golygu fod yna lai o blant i’w bwydo yn y tloty.
Ond roedd hefyd yn golygu nad oedd y plant yn cael dechrau da iawn i’w bywyd yn y gwaith, oherwydd roedd rhai masnachwyr yn defnyddio’u prentisiaid fwy neu lai fel llafur caethion. Roedd llawer o blant yn cael eu bwrw, yn cael ychydig iawn o fwyd i’w fwyta, ac yn gorfod gweithio mewn amodau gwael iawn.
Mewn rhai achosion, ni wnaethant hyd yn oed ddysgu crefft. Mae’r darnau a welwch chi ar y dudalen yma wedi dod o gofnodion ar gyfer Tloty Undeb Llanfyllin yn 1873...

Cruelty to an apprentice
31 Gorffennaf
1873
Minute book entry
14 Awst
1873
Minute book entry
 

31 Gorffennaf - "Resolved that the Clerk do write to Mr John Davies of Glascwm Meifod, Tailor, requesting his attendance at the next Board to answer certain charges of cruelty to John Evan Davies his Apprentice and not teaching him the trade of a tailor".
14 Awst - "John Davies of Meifod, Tailor, attended the Board to answer the complaints made against him for cruelty to his apprentice and denied the charges".
Felly dywedodd y teiliwr o Feifod wrth aelodau Bwrdd y Gwarcheidwaid nad oedd wedi bod yn cam-drin ei brentis ifanc a’i fod yn ei hyfforddi yn sgiliau’r grefft. Nid yw’r Llyfr Cofnod swyddogol yn dweud rhagor wrthym ynglyn â’r gwyn wedi hyn, ond gan fod mwyafrif y Bwrdd ar ochr y trethdalwyr, fe wnaethant dderbyn stori’r teiliwr yn fwy na thebyg ac ni wnaed unrhyw beth mwy amdano !
Roedd yna broblemau eraill gyda rhai crefftwyr a gymerodd brentisiaid ifanc o’r tloty. Edrychwch ar y dudalen nesaf...

Arian ar gyfer prentisiaid ? …
.