Llanfyllin Mae’r darnau yma o gofnodion tloty
Llanfyllin ar gyfer 1873
yn dangos fod yn rhaid i’r Bwrdd Gwarcheidwaid gadw llygaid ar y masnachwyr
oedd yn cymryd plant yno fel prentisiaid.
Mae’r
ddau ddarn yma wedi dod o Lyfr Cofnod
Undeb Llanfyllin yn 1873, ac maent
yn darllen -
Tloty'r Undeb
Gwario
arian y prentis !
Mae’r darn cyntaf yn dangos trefniant nodweddiadol ar gyfer darparu arian
o gronfeydd Treth y Tlodion ar gyfer cadw a rhoi
dillad i’r bachgen ifanc a anfonwyd
at grydd lleol i ddysgu’r grefft.
Mae’r ail ddarn yn awgrymu nad oedd arian a roddwyd i rai masnachwyr ar
gyfer hyn bob amser yn cael ei wario ar y prentis ! Cyflwynwyd gorchymyn
gan y Bwrdd yn dweud yn y dyfodol fod yn rhaid i’r arian fynd i’w swyddog
nhw, o’r enw y ‘Swddog sy’n Cynorthwyo’,
a fyddai’n gwneud yn siwr fod yr arian yn cael ei wario ar y pethau iawn
!
1873
1873
27 Mawrth -
"Resolved that Evan Jones a pauper child belonging
to this Union be bound an apprentice to Peter Jones of Llanerfil to learn
the trade of a Shoemaker for 3 years, that he be allowed a premium of
£4 and £1.5.0 for clothing".
4 Rhagfyr - "Resolved that in
future all cheques for clothing allowed to apprentices to be given to
the Relieving Officer of the district to which the apprentice belongs
and that such Relieving Officer be requested to see that the apprentice
is supplied with the clothing so allowed".
Defnyddiwyd y geiriau "bound an apprentice"
oherwydd fod y trefniant rhwng yr unigolyn ifanc
a’r crefftwr medrus yn gytundeb cyfreithiol
ac roedd yn rhaid i’r ddwy ochr ei gadw – am gymaint â phum
mlynedd ar gyfer rhai mathau o crefft !