Llanfyllin
Tloty'r Undeb
  Torri cerrig cyn brecwast  

Prif bwrpas y tlotai Fictoraidd cynnar oedd i roi llety i’r bobl dlotaf a mwyaf anffodus o’r plwyfi oddi amgylch yn y ffordd rataf bosibl.
Ar wahân i’r bobl dlawd oedd yn cael eu gorfodi i dreulio llawer o’u bywydau yn nhloty Llanfyllin, roedd yna hefyd ward ar wahân ar gyfer crwydriaid neu gardotwyr a fyddai’n aros am noson neu ddwy ac yna’n symud ymlaen. Roedd yn rhaid iddynt weithio’n galed am eu bwyd syml a llety cyntefig...

 
22 Awst
1867
Minute book entry
 

Mae hwn wedi dod o Lyfr Cofnod Undeb Llanfyllin ar
gyfer 1867 -
22 Awst - "Resolved that in future all vagrants admitted Breaking stonesto the Vagrant Ward be required to break 4cwt of stones before breakfast and that the Clerk do obtain the Sanction of the Poor Law Board to such arrangement".

Roedd angen cerrig bychain yn gyson ar gyfer cynnal a chadw’r ffyrdd garw lleol yn ystod y cyfnod yma. Roedd y cerrig yn cael eu torri gan forthwylion mawr nes eu bod yn ddigon bach i fynd trwy ridyll haearn. Roedd "4cwt" yn fyr am 4 "hundredweight", ac mae "1cwt" yn cyfateb i 50.8 cilogram.

Yn ôl i ddewislen tloty Llanfyllin

 

Nid oeddwn yn deall
pam fod y gwesty yma
mor rhad !