Llanfyllin
Tloty'r Undeb
  Plant o’r tloty yn mynd fel gweision  
 

Yn ogystal ag anfon plant ifanc iawn i weithio fel prentisiaid gyda chrefftwyr, roedd y Bwrdd y Gwarcheidwaid yn nhloty Llanfyllin hefyd yn trefnu i rai ohonynt fynd yn syth i weithio fel gweision i bobl gyfoethog yr ardal. Yr enw a roddwyd ar hyn oedd ‘mynd i wasanaethu’, ac roedd gwaith ar gael i fechgyn a merched.
Roedd gan y rhan fwyaf o ysgolion oes Fictoria wersi gwnď rheolaidd i ferched er mwyn eu paratoi hwy i fynd i wasanaethu mewn tai, sef un math o waith oedd ar gael ar yr adeg honno.
Mae’r enghreifftiau nodweddiadol yma wedi dod o gofnodion tloty Llanfyllin yn 1872 a 1874, ac maent yn dangos fod dau blentyn 'tlodion' i’w hanfon at gyflogwyr lleol am gyfnod prawf er mwyn gweld pa mor dda oeddynt yn gweithio.

Victorian servant
13 Awst
1872
Minute book entry
12 Chwefror
1874
Minute book entry
 

Mae’r ddau ddarn yma o’r Llyfr Cofnodion yn darllen -
13 Awst 1872 - "Richard Hughes a pauper child belonging to this Union was allowed to go to the Service of Mrs Mary Jones of Llangadfan on trial for a month".
12 Chwefror 1874 - "Resolved that Mrs Jones of Penybryn, Llanfyllin be allowed to have a pauper child named Mary Ann Date in minute bookBates on trial for a fortnight".

Mae’r penderfyniadau yma yn swnio’n ofnadwy i ni heddiw – dychmygwch anfon plentyn oedd dim ond 9 neu 10 mlwydd oed i ffwrdd i fyw a gweithio mewn ty lleol ar gyfnod prawf !
Os nad oedd y cyflogwr yn hoffi’r plentyn, roeddynt yn gallu gofyn am un arall yn ei le yn fwy na thebyg !
Pan yn 'mynd i wasanaethu' roedd llawer o ferched ifanc yn gorfod gweithio fel morwynion, ac yn gorfod golchi dillad, glanhau a chynnau tanau, sgrwbio lloriau, dystio, gweini bwyd, a llawer o waith arall. Roedd yn rhaid iddynt ddechrau gwaith yn gynnar iawn, nid oedd ganddynt beiriannau fel sydd gennym ni heddiw, a phitw iawn oedd yr arian roeddynt yn ei ennill.

Yn ôl i ddewislen tloty Llanfyllin.
.

Mae Cyfrifiad 1871 ar gyfer tloty Llanfyllin yn dangos mai dim ond 8 mlwydd oed oedd Richard Hughes bryd hynny ! Felly aeth allan i weithio yn 1872 pan oedd ddim ond yn
9 mlwydd oed !

Nid oedd Mary Ann Bates yn byw yn y tloty ar adeg cyfrifiad 1871.