Llanfyllin
Tloty'r Undeb
  Cyfrif y clapiau o lo
Geirfa
Lumps of coal

Roedd tlotai mawr newydd Undeb Deddf y Tlodion a adeiladwyd ar ôl 1834 yn cael eu rhedeg mor rhad â phosibl gan y Bwrdd y Gwarcheidwaid. Gofynnwyd i fasnachwyr lleol gyflwyno tendrau er mwyn cyflenwi’r tloty gyda phob peth oedd angen arno, a rhoddwyd yr archebion i’r rheini oedd yn medru gwerthu nwyddau am y prisiau rhataf posibl.
Roedd y cyflenwadau a ddefnyddiwyd hefyd yn cael eu dogni’n ofalus, fel y gellir gweld o’r enghraifft yma o dloty Llanfyllin yn 1841...

Ascertaining - cael gwybod.
 
 
6 Ebrill
1841
Minute book entry
 

Mae’r darn yma o Lyfr Cofnod 1841 yn darllen -
6 Ebrill - "Resolved - That the Master be directed to give out every morning a certain quantity of Coal for each Room tenanted by the Paupers, and that the Master make his weekly report of Lumps of coal the consumption during the previous week. That a Thermometer for ascertaining the heat of the Baths be provided".

Nid yw hwn yn dweud wrthym faint oedd y 'certain quantity' o lo oedd ei angen ar gyfer tanau’r tloty, ond gallwch fod yn weddol siwr nad oedd yn rhyw lawer. Yn fwy na thebyg dim ond ychydig glapiau o’r glo rhataf oeddynt yn gallu ei gael !
Annhebygol iawn hefyd fod y dwr ar gyfer bath a roddwyd i bobl oedd yn byw yno yn cael ei ganiatáu i fod yn gynnes iawn – oherwydd byddai’n rhaid defnyddio mwy o lo ar gyfer hynny ! Roedd y tloty hefyd yn cael prisiau am y gwaith rheolaidd o gladdu pobl oedd yn marw yno, fel y gallwch chi weld ar y dudalen nesaf...

Faint yw’r gost ar gyfer claddu plant marw ? …
.