Llanfyllin
Tloty'r Undeb
  Claddu plant am bedwar swllt  

Mae cofnodion tloty Llanfyllin yn cynnwys cost talu am fwyd, dillad, esgidiau, glo ac ati yn ogystal â llawer o’r deunyddiau a ddefnyddir gan y tlodion fel rhan o’r gwaith roedd yn rhaid iddynt ei wneud tra eu bod yno. Dyna phaham y cafodd y llefydd yma eu galw’n "workhouses" yn y Saesneg !
Gofynnwyd i bobl leol hefyd i ddyfynnu pris ar gyfer claddu pobl oedd yn marw yn y tloty neu pan yn derbyn Treth y Tlodion y tu allan. Fe fyddai hyn yn rhoi gwaith rheolaidd, oherwydd roedd y bwyd gwael, amodau ofnadwy, ac afiechydon heintus yn achosi llawer o farwolaethau – gan gynnwys plant ifanc.
Roedd y Bwrdd y Gwarcheidwad yn gosod hysbysebion ym mhapur newydd y 'Oswestry Advertiser' ar gyfer "Tenders for burying adult and other paupers in this Union", ac fel gyda phob peth arall oedd yn cael ei brynu, y cyflenwyr oedd yn gallu ei wneud rataf oedd yn cael y gwaith.

Drawing of coffins
21 Mai
1874
Minute book entry
Dyma ddarn nodweddiadol o Lyfr Cofnod tloty Undeb Llanfyllin yn 1874 -
"The following Tenders for burying Adult and other Paupers was
..accepted, viz

..Guilsfield - Robert Higgins - Adults £1 each
...........................................................Children under 6 years old 12/- each
..Meifod - ......Robert Morris - Adults £1 each
..........................................................Children under 10 years old 13/6".
Drawing of coffins
 

Gan fod y tloty yn cael ei rannu gan sawl plwyf, roedd gwahanol bobl yn gwneud cais am y gwaith ofnadwy o gladdu Minute book entry plant marw o bob plwyf, gallwch weld dau ohonynt yma.
Roedd y pris a nodir fel "12/-" yn 12 swllt [60 ceiniog], ac roedd "13/6" yn 13 swllt a 6 cheiniog [67 ceiniog] yn yr hen system arian o bunnoedd, sylltau a cheiniogau.
Mae’r darn bychan a welwch chi yma ar y dde wedi dod o restr o brisiau yn 1874 ar gyfer Llanrhaeadr, sy’n cynnwys claddu plant sy’n hyn na 10 mlwydd oed am 4 swllt [20 ceiniog], ac ar gyfer plant iau na 10 mlwydd oed 5 swllt [25 ceiniog] !

Yn ôl i ddewislen tloty Llanfyllin.
.