25
Chwefron - "A
letter dated the 25th February 1875 was received from Mrs Eyton V Williams
reporting 4 deaths which had taken place in the workhouse during the previous
week from Erysipelas".
Mae erysipelas
yn afiechyd difrifol ar y croen sy’n achosi i’r bochau a’r wyneb chwyddo’n
ofnadwy, gan arwain at ddatblygu swigod, y dwymyn a theimlo’r awydd i
chwydu. Anaml iawn y gwelwn ni’r afiechyd yma heddiw a gellir ei drin
gyda gwrthfiotegau, ond roedd yn gallu lladd yn ystod cyfnod Fictoria.
Afiechydon eraill oedd yn gallu lladd
yn y tloty oedd colera, teiffws, y dwymyn goch, y frech wen, a haint yn
y llygaid o’r enw opthalmia oedd yn aml iawn yn arwain at y claf yn mynd
yn ddall.
Ychydig o syndod felly fod cynllun safonol y math newydd o dloty a gyflwynwyd
yn 1834 yn cynnwys ’Ty Marw'.
Yn ôl i
ddewislen tloty Llanfyllin
.
|