Llanfyllin
Tloty'r Undeb
  O dan glo gyda bara a dwr  
 

Roedd bywyd bob dydd i bobl dlawd yr ardal a anfonwyd i’r tloty yn wael iawn. Roedd yr awyrgylch yn dywyll, ac ychydig iawn oedd yno i’w fwyta – ac roedd yr hyn yr oeddynt yn ei gael i’w fwyta yn wael ac yn ddi-flas.
Roedd lle roeddynt yn cysgu yn llwm, gyda gwelyâu haearn mewn rhes ac ychydig iawn o ddodrefn arall oedd yno.
Ond roedd pethau’n gallu mynd yn llawer iawn gwaeth i’r rheini nad oedd yn gwneud fel ag yr oeddynt fod i wneud. Roeddynt yn cael eu cosbi’n syth, oherwydd roedd yna reolau llym iawn yn y tloty, yn enwedig yn ystod cyfnod Fictoria.
Roedd y clamp creulon sydd i’w weld yng nghornel dde’r ffotograff yn cael ei ddefnyddio mewn rhai tlotai er mwyn cadw rhai oedd yn achosi trafferthion yn dawel. Edrychwch i weld sut oedd yn cael ei ddefnyddio yn ein tudalennau ‘Gofalu am y Tlawd'.
Mae’r enghraifft yma o gosb yn nhloty Llanfyllin wedi dod o’r Llyfr Cofnod ar gyfer 1841...

Gellir gweld y ‘ffrwyn’ yma sef y ‘scold’s bridle’ yn Amgueddfa Powysland yn Y Trallwng.
 
20 Ebrill
1841
Minute book entry
 

Mae’r darn yma o Lyfr Cofnod yn darllen -
20 Ebrill - "Ordered that Watkin Jones be confined for 24 hours and be fed upon Bread and Water".

Byddai hyn yn golygu y byddai wedi’i roi o dan glo yn yr ystafelloedd cosbi, a fyddai’n fwy na thebyg heb ffenestri, am ddiwrnod a noson.
Roedd gorchymyn i rywun gael ei chwipio o flaen trigolion eraill y tloty yn rhywbeth cyffredin, felly roeddynt yn gwybod beth i’w ddisgwyl os nad oeddynt yn cadw at y rheolau.
Pan cafodd y tlotai enfawr eu hadeiladu o dan Ddeddf Newydd y Tlodion yn 1834, y bwriad oedd eu gwneud yn llefydd oedd yn mynd i godi ofn ar bobl. Nid oedd yr awdurdodau’n poeni fod yna straeon ofnadwy yn cael eu dweud amdanynt i bobl tu allan, oherwydd prif bwrpas y llefydd yma oedd arbed arian ac annog pobl i ofalu am eu hunain.

Yn ôl i ddewislen tloty Llanfyllin.
.

Confinement cell