Llanfyllin Un o’r ychydig ddiwrnodau hynny yr
oedd y bobl anlwcus hynny oedd yn gorfod byw yn nhloty
Llanfyllin yn cael pryd da o fwyd
oedd ar Ddydd Nadolig. 17 Rhagfyr
- "Resolved that
the Inmates of the Workhouse be allowed the usual treat of Roast Beef
and Plum pudding on Christmas Day". Erbyn y dyddiad yma
roedd amodau yn y tloty yn llawer
iawn gwell nag ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines Fictoria, er na fyddai
unrhyw un yn dewis byw yn y llefydd yma pe baent yn cael y dewis !
Tloty'r Undeb
Dydd
Nadolig yn y tloty
Fel arfer gwael iawn a di-flas oedd
y bwyd yn nhlotai oes Fictoria oherwydd ychydig iawn o arian yr oeddynt
yn ei wario arno, a hyn oherwydd mai’r syniad oedd i wneud i’r lle fod
mor annymunol â phosibl. Nid yn unig fod y bwyd yn ofnadwy, roedd hefyd
yn cael ei ddogni’n llym, ac felly
roedd y bobl yn llwgu. Mae’r darn yma o gofnodion Undeb Llanfyllin yn
dod o Nadolig 1874...
1874
Mae’r ffotograff a welwch chi yma yn dod o ddyddiad
llawer diweddarach, yn fwy na thebyg tua 1904
neu ychydig wedi diwedd cyfnod Fictoria. Mae’n dangos te parti yn iard
tloty Llanfyllin.
yn nhloty
Llanfyllin
tua
1904