Powys Digital History Project

Cwm tawe Uchaf
Castell Craig-y-nos 2
gan Len Ley

Breuddwyd Capten Powell
Mae bryniau carreg galch geirwon sy’n codi’n serth dros Gwm Tawe yn creu golygfa fynyddig a oedd yn gofyn am bensaernïaeth weddus a chydymdeimladol. Dyma lle greodd Capten Powell ei gastell neo-Gothig yng Nghae Bryn Melin Bach ar safle uwchben yr afon ac yn agos at gartref ei dad. Defnyddiodd garreg galch ar gyfer yr adeilad gwreiddiol ond aeth y gost yn ormod iddo ac nid oedd yn medru cwblhau’r adain ogleddol. Roedd tyrrau a phyramidiau yn siapio waliau’r to a ffordd wedi’i gwblhau’n ddiweddar o Ystradgynlais i Aberhonddu yn pasio’r drws

O’r map Ordnans un modfedd argraffiad cyntaf o’r 1830au

Archifdy Sir Powys

Old OS map of Tawe valley
  Mae’r map uchod yn dangos y safle dramatig yng Nghwm Tawe Uchaf a ddewiswyd gan Gapten Powell ar gyfer ei gartref newydd. I gymharu â’r map a archwiliwyd wedi adeiladu’r tþ, ymwelwch â Chraig-y-nos 6.
  Yn 1843, symudodd y teulu i fewn i’r tþ ac ymsefydlodd y Capten Powell ei hunan i fywyd y sgweiar/ yswain gan ddod yn Ynad Sir ac Uchel Siryf Sir Frycheiniog. Er fod yntau a’i dad wedi priodi i fewn i deuluoedd da, fe brofodd y teulu ambell i anffawd wrth i’w fab ieuengaf farw o Colera yn 1851. Fe ddioddefodd golli ei wraig a’i ferch cyn iddo farw yn 1862.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach, lladdwyd ei fab hynaf mewn damwain hela yn Ynys Wyth. Roedd Sarah, ei ferch hynaf wedi priodi Capten Allaway ac arhosodd y pâr yn y castell wedi marwolaeth ei brawd tan i drychineb daro eto pan fu farw Capten Allaway ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Symudodd ei weddw i Ddinbych y Pysgod yn fuan cyn gwerthu’r eiddo yn 1875-76.
Roedd y teulu Iseldirol Overbeek o Galcutta a Capetown yn gysylltiedig drwy waed a’r gred oedd bod eu melltith wedi bwrw cysgod dros deulu’r Powell.
  Mae 10 tudalen ar Gastell Craig-y-nos. Defnyddiwch y cysylltiadau blwch i weld y tudalennau eraill.