Powys Digital History Project

Cwm Tawe Uchaf
Castell Craig-y-nos 4
gan Len Ley

Meistres Newydd
Yn 1878, syrthiodd prif seren opera’r dydd dan hud y castell a’i leoliad gan deimlo ei bod wedi canfod ei chartref delfrydol ynghanol unigrwydd tawel y cwm prydferth hwn. Mae ei enw Craig-y-nos yn taro nodyn rhamantus iawn.
Roedd y stad fechan hon ym mynyddoedd Cymru yn apelio at Madam Adelina Juana Maria Patti a brynodd y castell a’r parc o amgylch am £3,500. Cyrhaeddodd y prima donna uchelfannau ei gyrfa drawiadol a threuliodd gweddill ei bywyd yng Nghraig-y-nos gan adael i ganu yn y tai opera mwyaf yn Ewrop ac ymhellach i ffwrdd gan swyno’r byd â’i llais soprano hudolus.

Madam
Adelina Patti

Llun drwy ganiatâd caredig gan Amgueddfa Sir Frycheiniog.

 

Madam Adelina PattiYn fuan, adlewyrchodd y castell fywyd Patti a’r blynyddoedd disglair a oedd i ganlyn pan fyddai rhai o’r ffigyrau rhyngwladol mwyaf blaenllaw gan gynnwys Tywysog Henry o Battenburg a Thywysog Coronog Sweden yn dod i aros.

Mae un stori yn cyfeirio at gyfnod pan gafodd trên ei ohirio a chyrhaeddodd y grðp yn hwyr yn y nos. Cafodd y gweision eu deffro gan sðn ymwelwyr anhysbys ac anfonodd Madam Patti hwy yn ôl i’r gwely cyn croesawu ei gwesteion ei hunan. Ar y diwrnod canlynol, gwelodd y staff y Tywysog gan sylweddoli pam nad oedd eu Harglwyddes yn y gwely y noson gynt.

 

Am bum mlynedd ar hugain, fe ganodd Madam Patti i’r Frenhines Victoria drwy wahoddiad preifat a byddai, mae’n siw^r wedi adnabod nifer o aelodau’r teulu Brenhinol. Cyflwynwyd nifer o anrhydeddau i’r ‘Diva’ a gwobrwywyd yr Urdd Teilyngdod Rwsiaidd iddi gan y Tsar Alexander II yn 1870.


Dangosodd sofrenni gwladwriaethau eraill eu gwerthfawrogiad iddi yn yr un modd gan gynnwys Franz Josef o Awstria a’r Ymerawdwr Maximillan o Mexico.

  Mae 10 tudalen ar Gastell Craig-y-nos. Defnyddiwch y cysylltiadau blwch i weld y tudalennau eraill.