Powys Digital History Project

Cwm Tawe Uchaf
Castell Craig-y-nos 7
gan Len Ley

Bywyd diweddarach Patti yng Nghraig y Nos
Daeth marwolaeth Nicholini â newid mawr ym mywyd Patti a’i chastell. Roedd hi’n 56 mlwydd oed ac i gwrdd â’r Barwn Rolf Cederstrom yn fuan, uchelwr Swedaidd a oedd yn 26 mlynedd yn iau na hi. Priodwyd hwy yn yr Eglwys Babyddol yn Aberhonddu ar y 25ain Ionawr 1899 a dychwelasant i Graig-y-nos.

Prinhaodd ei pherfformiadau a digwyddodd ei hymddangosiad proffesiynol olaf yn 1900 pan ganodd mewn perfformiad Romeo a Juliet elusennol yng Ngerddi Covent. Er i’w pherfformiadau ar y llwyfan ddod i ben, bodlonodd y Farwnes Cederstrom ei hangen am ganu drwy berfformiadau preifat yn ei theatr hardd gyda’i gyfleusterau da.

 

Y Barwn Rolf Cederstrom

Llun drwy ganiatâd caredig gan Amgueddfa Aberhonddu.

Baron Rolf CederstromDigwyddiad cyffrous yn ei blynyddoedd diweddara oedd sðn ei llais canu fel y gwrandawodd ar argraffiad cðyr o record gramoffon cynnar. Bu’n uchelgais gan yr holl gwmnïau ‘Talking Machine’ i recordio’r soprano wych ond gwrthododd ganu iddynt am nifer o flynyddoedd.

Cafodd y ffonograff ei ailosod gan y gramoffon gynnar a ystyriwyd gan y ‘Diva’ yn degan yn unig nad oedd yn gallu cynhyrchu gwir ansawdd ei llais. Roedd Madam Patti bron yn 63 pan berswadiwyd hi gan y byd cerddorol o’r diwedd i wynebu’r peiriant recordio a chanu i’w disgynyddion. Cytunwyd y dylai tîm recordio deithio i Graig y Nos ac yn 1906 fe gyrhaeddasant yn y castell a gosod eu cyfarpar yn y theatr.
Roedd y Diva yn garedig ac yn hael ond braidd yn anwadal ac yn galw pawb yn ‘anwylyd neu’n ddiafol yn ôl yr hwyliau’ (‘darling or devil as the mood dictated’).

Yn wraig dduwiol iawn, dywedwyd ei bod yn gantores gyda llais difai a phersonoliaeth i weddu i hyn. Parhaodd pob sesiwn am oddeutu awr a chymerodd yr holl recordio bedwar diwrnod i’w gyflawni. Gwelai hi’n anodd i sefyll yn llonydd pan yn canu i fewn i dwmffed bychan y peiriant a chafodd ei hatal yn dyner rhag symud i ofynion y gerddoriaeth.
Yn y lle cyntaf, roedd yn eithaf nerfus ac wedi’r recordiad cyntaf, gofynnodd i’w glywed ar unwaith. Er y byddai hyn yn difetha ei gwaith, cafodd ei dymuniad ei ganiatáu a chafodd y darn ei recordio unwaith eto. Gyda sain ei llais, rhannodd y soprano wych y profiad yn derfynol a oedd wedi hudo cynulleidfaoedd ar draws y byd. Er iddi weddïo cyn pob recordiad, teimlasai’n dawelach ei meddwl a wynebodd y gweddill o’r recordiad gyda llai o ofn.
  Yn fuan wedi cwblhau ei stoc berfformio, fe guddiodd y tîm recordio y gramoffon yn agos at y brif risiau ac fel y daeth y Farwnes i lawr y grisiau am ginio, fe lanwodd sain ei llais yr awyr.
Fe ddywedir iddi barhau yno yn llonydd ac yn welw iawn gan lynu at ganllaw y grisiau drwy’r cyfan. Er ei bod yng nghyfnos ei gyrfa orfoleddus, roedd hi dal i ganu’n gywir a’i llais yn parhau’n wych yn broffesiynol. Yn anffodus, ni recordiodd Patti fwy na hyn ond fe oresgynnodd ei llais a’i thechneg diffygion y cyfarpar cynnar a chynhyrchwyd sain o safon a gyflymodd dyfodiad y gramoffon i gartref llawer. Roedd ei gyrfa orfoleddus yn tynnu at ei derfyn a thalodd dechnoleg newydd deyrnged i wraig ryfeddol.
  Mae 10 tudalen ar Gastell Craig-y-nos. Defnyddiwch y cysylltiadau blwch i weld y tudalennau eraill.