Powys Digital History Project

Cwm Tawe Uchaf
Castell Craig-y-nos 8
gan Len Ley

Lle Tân Dwyreiniol yn y parlwr yng Nghraig y Nos

Llun drwy ganiatâd caredig gan Amgueddfa Brycheiniog

Blynyddoedd Olaf Patti
Cafwyd yr ymddangosiad cyhoeddus olaf gan Patti yn Hydref 1914 pan ganodd ar gyfer y Groes Goch ac fe lanwyd yr Albert Hall unwaith eto gan y cyhoedd addolgar a oedd dal yn ei charu.

Roedd ei bywyd o deithio bron ar ben a daeth i dreulio’r rhan fwyaf o’i bywyd yng Nghraig-y-nos gyda’i gðr a’i staff ymroddedig.

 

 

Mae theatr yn parhau fel capsiwl amser a’r llwyfan yn ôl pob tebyg, yw’r unig enghraifft o gyfarpar cefn y llwyfan gwreiddiol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn aml, gall sain ei recordiadau o fewn yr awditoriwm gael effaith ar y bobl sy’n gwrando arno.
  Cyffyrddodd y Rhyfel Mawr ar fywyd y castell pan aeth y Cogydd Ffrengig a mab i forwyn bersonol y Fadam i ryfel a’u lladd yn y ffosydd. Roedd dau fachgen pantri Almaenaidd a dwy ferch Almaenaidd yn y golchdy ymysg ei staff a chawsant eu caethiwo pan ddechreuodd y rhyfel. Er hynny, bu cariad yn drech yn y diwedd pan briododd merch o’r golchdy fachgen lleol a chafodd ei rhyddhau ar unwaith.

 

Staff y Tþ yn y Gerddi Gaeaf yng Nghraig-y-nos

Llun drwy ganiatâd caredig gan Amgueddfa Brycheiniog

Staff at Craig-y-nosRoedd yr Ardd Aeaf yn nodwedd bensaernïol arall i’w adeiladu gan y Farwnes ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn adeilad helaeth gyda tho uchel ac wedi’i wneud yn bennaf o wydr, dyma lle byddai’r Diva yn rhodio gyda’i gwesteion ymysg y planhigion trofannol tra byddai adar egsotig yn hedfan oddi fewn. Roedd par o ffowtenni haearn wedi eu siapio fel crëyr glas gyda phlu amryliw yn taflu golau o liwiau’r enfys o’r dðr a oedd yn syrthio gan hudo pawb a fyddai’n eu gweld.

Unwaith eto, daeth amser a’r rhyfel â newid i’r castell ac yn 1918, cyflwynodd y prima Donna ei gardd aeaf i bobl Abertawe. Galwyd ef yn Patti Pavilion ac mae wedi cael ei adnewyddu. Mae un o’r ffowtenni yn sefyll ym mlaen-gwrt y castell a dywedir bod y llall dal yn bodoli yn nhiroedd Prifysgol Abertawe. Pan gyrhaeddodd y contractwyr i ddatgymalu’r ardd aeaf, dywedwyd wrthynt bod yr holl ddynion abl o gorff wedi mynd i’r rhyfel a byddent yn gorfod canfod gweithlu arall.
  Mae 10 tudalen ar Gastell Craig-y-nos. Defnyddiwch y cysylltiadau blwch i weld y tudalennau eraill.