Powys Digital History Project

Cwm Tawe Uchaf
Castell Craig-y-nos 9
gan Len Ley

Rhedeg Tþ Mawr
Cafodd y bersonoliaeth enwog a chyfoethog hon effaith ar y gymuned mewn nifer o ffyrdd a gwelir sôn amdani y tu hwnt i’r ardal. Yr hyn a oedd o fudd mwyaf i bobl gyffredin yn ôl pob tebyg oedd nifer y swyddi a grëwyd ganddi. Ar un adeg, cafwyd saith deg o weision tþ a staff allanol yn gweithio yn y castell. Ar yr adeg, dyma’r prif ffynhonnell incwm ar gyfer cymuned fechan yn byw sawl milltir oddi wrth y pylloedd glo a’r gweithfeydd haearn yn rhan isaf y cwm.
Gellir mesur y gost o redeg Craig-y-nos o’r pedwar deg tunnell o lo a gyflenwyd bob mis a defnyddiwyd y mwyafrif ar gyfer gwresogi domestig a garddio. Roedd y cyfanswm o lo a gafwyd yn amrywio yn ôl y tymor.

O’r map Arolwg Ordnans 6" Argraffiad Cyntaf oddeutu 1887 yn dangos y tir a gafodd ei dirlunio’n ddiweddar yn ymestyn ar draws yr Afon Tawe.

Archifdy Sir Powys

Craig-y-nos oedd y cartref preifat cyntaf i gael ei gwifrio am drydan a chafwyd tystiolaeth am hyn ychydig flynyddoedd yn ôl gan Mr J.A.Lea, Ysgrifennydd olaf yr Ysbyty ac aeth rhywun o’r cwmni trydan i wneud ymchwil berthnasol. Cynhyrchwyd pðer ar 110 folt [dc] gan beiriant nwy ‘otto’ a oedd yn cael tanwydd o waith nwy bychan wedi’i leoli yn nhiroedd y castell. (gweler y map)
Bydd y gwifrio yn cynnwys estyll gyda dwy rigol baralel a oedd yn cludo gwifren gopr wedi ei orchuddio â darn o goed cyfatebol. Roedd hyn yn cyflenwi’r pðer ar gyfer y lampiau ‘swan’ a’r organ ‘Cerddorfa’ a oedd yn cael ei yrru gan drydan ac a reolwyd gan rôl bapur tyllog. Lleolwyd yr organ yn yr Ystafell Biliards. Dyma oedd prif ddiléit Nicholini, cyn ei farwolaeth yn 1898.
  Fe barhaodd y Diva yn y castell yn ystod blynyddoedd ei henaint a cherddoriaeth oedd ei phrif gariad. Byddai’n ymarfer ei graddfeydd yn ddyddiol gyda tri parot yn canu gyda hi weithiau. Roedd un parot yn wythdeg mlwydd oed.
Roedd pianos cyngerdd yn addurno llawer o’r ystafelloedd gan gynnwys y brif ystafell wely a’r theatr. Gellid canfod sgorau opera a llyfrau efrydd ymhobman a byddai Adelina yn aml yn cael un pan fyddai yn trafod materion domestig. Weithiau, byddai yn colli un a byddai gwas yn aildroedio camau’r ‘Diva’ hyd nes y byddai’n cael ei ganfod.
  Mae 10 tudalen ar Gastell Craig-y-nos. Defnyddiwch y cysylltiadau blwch i weld y tudalennau eraill.