Powys Digital History Project

Cwm Tawe Uchaf
Castell Craig-y-nos 10
gan Len Ley

Diwedd Cyfnod
Newidiodd stori Craig-y-nos unwaith eto gyda marwolaeth Adelina Patti ar y 27ain Medi 1919 yn ei chartref yn y bryniau Cymreig. Bu ei chorff a gafodd ei embalmio yn gorwedd yn ei chapel preifat hyd nes 24ain Hydref pan aethpwyd â hi i Lundain er mwyn i’r holl fyd dalu teyrnged iddi yn yr Eglwys Babyddol Rufeinig yn Kensal Green.

Yn unol â’i dymuniadau, aethpwyd â’r Prima Donna wych i Ffrainc a’i chladdu ger Paris yn y fynwent yn Pere le Chaise. Mae’n gorwedd ger Rossini a nodir y bedd gan ei henw ar garreg ddu plaen.

Castell Craig-y-nos yn ei ddyddiau gorau gyda’r amrediad llawn o estyniadau gan gynnwys yr Ardd Aeaf.

Llun drwy ganiatâd caredig gan Amgueddfa Brycheiniog

  Gadawodd y Barwn Rolf Von Cederstrom Gymru bron ar unwaith wedi ei marwolaeth a bu fyw bron ddeng mlynedd ar hugain ar ei hôl. Fe ailbriododd bedair blynedd yn ddiweddarach a daeth yn dad i ferch gan farw yn 1947 yn Newmarket. Ers ei marwolaeth, mae storïau wedi cael eu hadrodd am weld a theimlo ei phresenoldeb hawddgar a hynaws dros y blynyddoedd. Dywedir i rai weld ffigwr fechan y wraig wedi gwisgo mewn du yn ymlithro ar draws ystafelloedd gwahanol ac yn symud o amgylch y cwrt.
Mae un stori ddiweddar yn sôn am bianydd a oedd yn wraig a eisteddodd unwaith wrth biano yn rhagystafell y theatr ac yna fe deimlodd bresenoldeb y tu ôl iddi. Ar ei chynnig cyntaf, chwaraeodd y cyfan o ‘Home Sweet Home’ Patti yn berffaith, cyn troi o amgylch i weld nad oedd neb yno.
  Gwerthwyd y castell a’r tiroedd i’r Ymddiriedolaeth Coffa Cenedlaethol Cymreig am £11,000 ym mis Mawrth 1921 ac fe’i galwyd yn Ysbyty ‘Adelina Patti’ ar gais y Barwn. Roedd yn gweithredu fel ysbyty y fron a llwyddodd llawer i adennill eu hiechyd yn ystod y cyfnod hwn hyd nes gorchfygu pla y dicáu/ ddarfodedigaeth. Yn ei flynyddoedd olaf, roedd y cleifion gan fwyaf yn hen ac yn eiddil.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, daethpwyd â pheilot o’r Awyrlu Prydeinig i’r ysbyty am driniaeth a chyfarfu â gwraig ifanc a oedd bron iawn wedi ei chaethiwo i’w gwely. Fe benderfynodd y ddau i briodi ond roedd hi’n rhy sâl i deithio felly caniataodd yr eglwys drwydded arbennig iddynt. Cawsant eu priodi yn y theatr a dychwelasant i’r byd tu allan wedi adfer eu hiechyd.
 

Fe gafodd y castell ei gau fel ysbyty ar y 31ain Mawrth 1986 wedi trosglwyddo gweddill y cleifion i’r Ysbyty Cymunedol newydd yn Ystradgynlais. Fe gynhaliodd y Swyddfa Gymreig Graig-y-nos a’i theatr unigryw hyd nes iddo gael ei werthu i berchnogion preifat. Fe barhaodd yn agored i’r cyhoedd am nifer o flynyddoedd ond ar hyn o bryd mae perchnogion preifat yn ei berchen.

© Len Ley

  Mae 10 tudalen ar Gastell Craig-y-nos. Defnyddiwch y cysylltiadau blwch i weld y tudalennau eraill.