Powys Digital History Project

Cwm Tawe Uchaf
Castell Craig-y-nos 5
gan Len Ley

Madam Adelina Juana Maria Patti (1843-1919)
Ganwyd Madam Patti ym Madrid ar 19eg Chwefror 1843, i dad Sisilaidd a mam Eidalaidd a oedd ill dau yn gantorion opera. Hi oedd yr ieuengaf o chwech o blant ac roedd ei rhieni yn gymharol dlawd. O sylweddoli ei photensial fel cantores, cafodd eu merch ei lansio i fewn i yrfa gerddorol gynnar ganddynt ac roedd hi’n canu yn neuaddau cyngerdd Efrog Newydd yn wyth mlwydd oed.
Yn fuan, daeth Adelina yn enwog yn rhyngwladol a pherfformiodd yn Covent Gardens yn 1861. Agorwyd drysau byd y boneddigion iddi ac yn 1868 fe briododd y Marcwis de Caux, marchwr i Napolean III o Ffrainc mewn Eglwys Gatholig Rufeinig yn Llundain.
Nid oedd yn briodas hapus ac yn 1899 fe drefnodd y ‘Diva’ ysgariad gan gytuno rhoi hanner o’i chyfoeth cyfredol i’w chyn ðr. Dywedwyd bod y ffigwr a gytunwyd yn £64,000, swm sylweddol yn y dyddiau hynny. Fe welwyd hi’n adfer ei hunan yn ariannol a daeth Adelina’n un o berfformwyr cyflogedig uchaf y proffesiwn a welwyd erioed.

 

Llun gyda’r arysgrifiad "Madam Patti Nicolini in Gabriella".

Trwy ganiatâd caredig gan Amgueddfa Brycheiniog.

Roedd ei dyrchafiad o dlodi cymharol i enwogrwydd byd eang yn arwydd o allu a thalent trawiadol gyda chryfder cymeriad amlwg. Roedd y seren wych eisoes yn teimlo’n agos iawn at Ernest Nicholini, tenor Ffrengig a oedd wedi perfformio â hi., weithiau fel Romeo i’w Juliet.
Roedd Signor Nicholini yn ðr tywyll, golygus a oedd yn dioddef o ran iechyd ac a ddaeth yn hoff o hela neu bysgota am frithyll ar hyd yr afon Tawe.
Yn y pen draw, priodwyd y pâr gan y conswl Sbaenaidd yn Abertawe ar y 9fed Chwefror 1886 a bendithiodd y Parch Glanley eu priodas yn Eglwys St Cynog, Ystradgynlais ar y diwrnod canlynol.
Treuliodd y blynyddoedd gyda’r gðr a garai a dychwelodd Adelina i’w chastell gan daflu arian a gofal i’r newidiadau enfawr a fyddai’n costio dros £100,000 gan ychwanegu adain y gogledd a’r de, tðr y cloc, ystafell wydr a’r ardd aeaf ardderchog.
Erbyn hyn, gofynnai am dros £1,000 am bob ymddangosiad ac enillodd dros £100,000 mewn ffioedd a chomisiynau ar daith yn yr America yn 1889. Wrth barhau â’i gyrfa wych, teithiodd y ‘Diva’ o amgylch y byd o’i chastell anghysbell Cymreig, gan adael gyda cheffyl a cherbyd ar hyd y ffordd breifat a adeiladwyd i’r orsaf drên ynysig ym Mhenwyllt lle cafwyd ystafell aros fechan, wedi’i ddodrefnu’n gyfoethog er ei mwyn hi.
Darparodd y cwmni rheilffordd, drên i dynnu ei cherbyd preifat hardd a chafodd ei chludo i unrhyw le y dymunai.
Roedd Madam Patti yn garedig wrth ei staff ac yn hael wrth y gymuned leol (gweler tudalennau ar Ysgol Coelbren) gan roi nifer o gyngherddau elusennol ar gyfer ysbytai yn Abertawe, Castell Nedd ac Aberhonddu. Byddai’n aml yn codi dros £700 mewn un perfformiad.
Adwaenwyd hi fel y Diva a gofalodd am ei staff a pharhaodd i dalu am y sawl a oedd yn sâl gan anfon meddyg atynt a’u teuluoedd. Fel arfer, byddai’n anfon basged fwyd ar gyfer y teulu a byddai’n mynd â’r fasged iddynt eu hunan.
Rhoddwyd pensiwn i’r sawl a’i gwasanaethodd yn hir ac yn ffyddlon ar eu hymddeoliad a rhoddwyd ystafell yn ei chastell i’r sawl nad oedd llety arall ganddynt am weddill eu hoes.
  Mae 10 tudalen ar Gastell Craig-y-nos. Defnyddiwch y cysylltiadau blwch i weld y tudalennau eraill.