Powys Digital History Project

Cwm Tawe Uchaf
Castell Craig-y-nos 6
gan Len Ley

Yr Agoriad Mawr

Craig-y-nos wedi’i estyn yn ddiweddar gan Madam Patti o lethrau Cribarth.

Llun drwy ganiatâd caredig gan Amgueddfa Brycheiniog.

Craig-y-nos after alterations
 

Fe barhaodd y newidiadau i Graig-y-nos ac adlewyrchodd y tywodfaen coch yr estyniad newydd. Roedd y theatr yn y plasty yn ychwanegiad anhygoel a gallai ddal dros 150 o bobl. Cynlluniwyd ef fel awditoriwm preifat lle medrai Brenhines y Gân ryngwladol hudo pawb a fyddai’n dod i wrando â’i llais trawiadol, unigryw.

Cynhaliwyd y seremoni agoriadol ar 12fed Gorffennaf 1891 pan oedd y rhestr o westeion yn cynnwys y Llysgenhadwr Sbaenaidd a’r Barwn Julius Reuter, sylfaenydd yr Asiantaeth Newyddion Tramor. Roedd Sir Henry Irvin i roi yr anerchiad agoriadol ond nid oedd yn medru mynychu ac felly cymerodd yr actor enwog, William Terris yr awenau. Cafodd y gðr anffodus hwn ei ladd gan ddyn gwallgof tu allan i Theatr yr Adelphi yn Llundain rhyw chwe mlynedd yn ddiweddarach.

Y Theatr yng Nghraig-y-Nos.

Llun drwy ganiatâd caredig gan Amgueddfa Brycheiniog.

 

Daeth sêr y byd opera i’r wledd agoriadol a’r seremoni a ddilynodd. Arweiniodd y Signor Arditi y gerddorfa a oedd yn cyd-fynd â’r Prima Donna a Nicholini ar y cyntaf o nifer o berfformiadau a gynhaliwyd yn ystod yr ðyl. Atseiniodd cerddoriaeth a chân ar draws y cwm dros y blynyddoedd i ddod.
Darparwyd ar gyfer angerdd y Diva am ddawnsio drwy godi llawr yr awditoriwm yn fecanyddol i lefel y llwyfan gan ganiatáu Adelina i ddawnsio â’i ffrindiau drwy’r nos. Byddai’n canu i’r bonheddig a’r tlawd ar yr amod eu bod yn caru cerddoriaeth ac yn deall ei ystyr.

Pasiodd amser a dechreuodd iechyd Nicholini fethu. Argymhellwyd aer y môr ac arhosodd ar Fae Langland ar Benrhyn Gðyr am gyfnod a theithiodd i Pau yn Ne ddwyrain Ffrainc lle bu farw yn Ionawr 1898.

  Mae 10 tudalen ar Gastell Craig-y-nos. Defnyddiwch y cysylltiadau blwch i weld y tudalennau eraill.