Castell Neo-Gothig Nodwyd y castell
yn y Siawnsri ai brynu or diwedd gan Morgan Morgan
Abercraf am £6,000. Roedd y Chwareli carreg galch uwch
Pentref Cribarth yn cloddio llawer iawn o garreg galch a gafodd
ei losgi mewn odynau cyfagos. Ecsploitiwyd y gwaddodion o gerrig
pydron ac aethpwyd â chryn dipyn o garreg ar y gamlas yn
Abercraf ai gyflenwi ir diwydiant plât tun
fel asiant gloywi.
Castell neo-Gothig
Capten Powell gyda Chraig-y-rhiwarth yn ymddangos yn y cefndir.
Llun drwy ganiatâd
caredig gan Amgueddfa Sir Frycheiniog.
Fe ymgartrefodd Mr Morgan ai deulu
yn y castell lle ymunodd ei fab, Morgan Morgan hefyd ag ef yn
fuan wedyn. Bur ddau deulu yn byw gydai gilydd am
nifer o flynyddoedd, pob un gyda chegin yn yr islawr. Safai colofn
enfawr yng nghanol y gegin fawr lle dywedwyd bod potel yn cynnwys
papur newydd cyfredol a cheiniogau bath diweddar wedi ei gladdu.
Ar adeg yr arwerthiant, roedd planhigfa enfawr o goed pîn
yn sefyll rhwng y castell ar chwareli uwchben. Roedd y
coed oddeutu 80 mlwydd oed o daldra, a chwmpas da gydag wiwerod
yn neidio o gangen i gangen. Fel roedd y degawd yn tynnu at ei
therfyn, penderfynodd y perchnogion presennol i adael ac roedd
pennod drawiadol yn hanes Craig-y-nos ar fin cael ei hagor.
Mae 10 tudalen ar Gastell Craig-y-nos.
Defnyddiwch y cysylltiadau blwch i weld y tudalennau eraill.