Powys Digital History Project

Cwm Tawe Uchaf
Castell Craig-y-nos 1
gan Len Ley

Gwreiddiau a lleoliad
Mae’r gwaddodion carreg galch sy’n ymestyn ar draws crib ogleddol maes glo De Cymru yn ymestyn i’r gorllewin tuag at Gwm Tawe a thu hwnt i hyn. Yng Nglyntawe, maent yn coroni’r bryniau cyfagos ac mae eu copaon wedi cael eu hecsploitio ers sawl canrif.

 

Odyn Galch ar Gribarth

Llun o gasgliad y diweddar John Morris

Lime Kiln on CribarthCafodd carreg galch ei chwarelu o Gribarth, ei losgi mewn odynau mawr ac yna ei gymysgu â morter neu ei wasgaru ar y tir. Roedd chwareli unwaith yn cyflenwi nifer o ffwrnesi yng Ngweithfeydd Haearn Ynyscedwyn ac yn gynyddol, byddai cryn dipyn o gerrig yn cael eu cludo i’r cwm gan anifeiliaid pwn.
  Roedd y diffyg mewn cludiant trwm wedi creu’r angen am gwrs dðr ar hyd llawr y cwm i borthladdoedd yn Abertawe.
Yn 1793, fe archwiliodd Thomas Saesby gwrs dðr am y tro cyntaf a oedd yn ymestyn am ugain milltir ac a gynlluniwyd i godi 605’ drwy 68 clo. Edrychai drychiad ochr y cynllun cynharaf fel grisiau enfawr, yn dringo yn fwy serth i’r odynau carreg galch uwchben Pentref Cribarth yn Abercraf.
Yn yr achos hwn, cynhaliwyd ail arolwg a chafodd camlas arall ei greu cyn belled â Hen neuadd lle gellir gweld rhan o’i derfynell yn agos at Dafarn y Rheola.
  Yn ffodus, cafodd twrw a stðr y chwyldro diwydiannol ei osgoi ac mae ein stori ni yn dechrau yn 1840 pan ddychwelodd y Capten Rice Davies Powell i Glyn Tawe a phenderfynu adeiladu plasty Fictoraidd cynnar ger yr Afon Tawe yng nghyffiniau uchaf y cwm. Mab y Dr William Powell ydoedd, disgynnydd o’r teulu Powell o Glyn Lech Isaf lle buont yn ffermio’r tir ym Mhen-y- cae gerllaw ers sawl cenhedlaeth. Galwyd Capten Powell i’r bar ac yn ddiweddarach, fe wasanaethodd gyda’r fyddin yn India. Bu ei daid ar ochr ei fam yn llawfeddyg cyfoethog gyda Chwmni Dwyrain India a bu ei dad yn feddyg yn Llundain cyn dychwelyd i’w fan geni a phrynu Fferm Pentref Cribarth.
  Mae 10 tudalen ar Gastell Craig-y-nos. Defnyddiwch y cysylltiadau blwch i weld y tudalennau eraill.