Y Trallwng a'r cylch
Bywyd ysgol
  Dysgu o Lyfrau Log yr ysgolion  

Mae’r rhan hon o’n gwefan yn rhoi rhyw syniad inni am fywyd pob dydd y plant oedd yn mynd i’r ysgolion lleol ym mlynyddoedd olaf teyrnasiad hir y Frenhines Fictoria.
Mae yma gofnodion o Lyfrau Log neu ddyddiaduron swyddogol yr ysgolion lleol. Er bod rhai o’r ysgolion wedi’u hagor ymhell cyn hynny, nid oedd yn rhaid i’r rhan fwyaf ohonynt gadw cofnodion swyddogol tan 1863, ac mae’r rhan fwyaf o’r cofnodion hynaf wedi mynd ar goll.
Yn aml iawn, gall y Llyfrau Log ddweud llawer wrthym am fywyd cartref yn ystod y cyfnod hwnnw, yn ogystal â bywyd yr ysgol ei hun. Byddai’n rhaid i blant o deuluoedd tlawd fynd allan i weithio cyn gynted ag y byddent yn ddigon hen er mwyn ennill arian ychwanegol.
Byddent yn colli gwersi’n aml er mwyn helpu ar y fferm, neu gyda rhyw waith arall i’w rhieni.

Boys in Welshpool
   
   
   
   
   
   
 
 
 

Ewch i ddewislen Y Trallwng
.

.