Y
Trallwng a'r cylch
Bywyd ysgol
|
Mae’n
oer, mae’n dywyll, - ein hysgol ni ! |
|
|
Yn aml byddai’n rhaid i blant gyrraedd
yn gynnar i gynnau’r tân mewn ystafelloedd dosbarth hynod o oer cyn y
gellid dechrau ar y gwersi. Mae hyn i’w weld yng nghofnodion Ysgol
Buttington yn 1886...
|
|
20
Hydref
1886
|
|
"Edith
Evans has been appointed monitress for making the fire and sweeping the
school. The managers of the school have agreed to allow this girl her school
money for her services". |
|
Yn yr achos
hwn roedd merch fach yn gorfod cynnau’r tân
bob bore ac ysgubo’r ystafell ddosbarth.
Fel tâl am ei gwaith nid oedd yn rhaid iddi dalu’r ffi ysgol !
Mae’r esiampl nesaf o ddyddiadur Ysgol Gunrog Road
yn 1875... |
|
30
Hydref
1875
|
|
"On
Monday the children were sent home at 11 o'clock, there being no fires in
school it was too cold for them to stay, on Tuesday also. On Tuesday evening
a stove was brought"... |
|
Yn aml yn
ystod misoedd y gaeaf, roedd hi’n rhy dywyll
yn ogystal â rhy oer, gyda dim ond ychydig iawn o olau effeithiol
yn yr ystafelloedd dosbarth, ar wahân i olau dydd (os
oedd hefyd !) yn dod trwy’r ffenestri.
Dyma gofnod o Ysgol Vaynor yn ystod
gaeaf 1889... |
|
6
Rhagfyr
1889
|
|
|
"The
days are getting much shorter, the children can hardly see to do their lessons
at three o'clock"... |
|
Fel pe na bai’n ddigon i blant ddioddef
ysgolion oer a thywyll, roedd yn rhaid i lawer ohonynt gerdded
am filltiroedd dros lwybrau geirwon a hynny mewn tywydd o bob
math !
Yn ôl i ddewislen
ysgolion
Y Trallwng
|
|
|
|
|