|
Fel
y gallwch weld o’r map, mae dyffryn Afon Hafren yn un o’r prif
ffyrdd o ganol Lloegr i fynydd dir canolbarth Cymru.
Yn ystod oes Fictoria roedd camlas, ffordd bwysig a rheilffordd yn dilyn
gwaelod y dyffryn. Datblygodd Y Trallwng fel tref
farchnad yn y dyffryn yma.
Y tu allan i’r dref, roedd y rhan fwyaf o bobl oes Fictoria yn gweithio
ar y tir mewn rhyw ffordd neu gilydd – yn fwy na thebyg ar dir oedd yn
eiddo i un o’r ystadau mawr fel Castell
Powis.
Erbyn diwedd cyfnod Fictoria roedd bywyd y bobl gyffredin yn galed iawn
o hyd ond bu yna lawer o newidiadau er gwell...
Daeth addysg â chyfleoedd newydd i
blant, gan eu gwneud yn fwy ymwybodol o’r byd mawr y tu allan.
Oherwydd
gwelliannau mewn cludiant daeth yna
gysylltiadau gyda dinasoedd mwy a hefyd gyda lleoedd pellach i ffwrdd.
Dyma gychwyn cynnig y posibiliadau ar gyfer teithio ymhellach.
|