Newidiodd poblogaeth Y
Trallwng ac ardal y ffin
trwy gydol cyfnod Fictoria fel y symudai pobl o gwmpas i ennill eu bywoliaeth.
Cofnodwyd yr wybodaeth am y boblogaeth
leol yn y cyfrifiad a ddigwyddai bob
deng mlynedd. Cyflogwyd dynion i deithio o gwmpas yr ardal i gofnodi pwy
oedd yn byw ymhob ty a beth oedd eu gwaith. Mae rhif y boblogaeth i’w
cael yn y cofnodion yma.
Roedd Prydain wedi’i rhannu yn blwyfi
(maent i’w gweld ar y map) ac mae’r rhifau’n
dangos sawl person oedd yn byw yn y plwyf. Fel arfer, pentref
o gwmpas eglwys y plwyf a’r
ardal o gwmpas iddo fyddai’r plwyf. Mewn rhai plwyfi byddai amryw o gymunedau
bychain.
|