Y Trallwng a'r cylch
Graffiau poblogaeth
  Ffigyrau cyfrifiad ar gyfer plwyf Aberriw  
Poblogaeth

 
  Yr union ffigurau cyfrifiad a gofnodwyd oedd -  
  Yn y flwyddyn
1841 - 2259 o bobl
1851 - 2177
1861 - 2155
1871 - 1929
1881 - 1838
1891 - 1760
1901 - 1535
 
 

Yn ôl yr adroddiad a gyhoeddwyd o ffigyrau cyfrifiad 1871 roedd poblogaeth Aberriw wedi syrthio oherwydd allfudo. Dyma’r adeg y gadawodd llawer o bobl dlotaf leol y wlad i chwilio am waith.

Yr un fath â heddiw, roedd plwyf mawr Aberriw yn ardal wledig yn Oes Fictoria (gweler y tudalennau mapiau). Roedd llawer o ffermydd tir uchel gyda ffermydd mwy yn Nyffryn Hafren.
Roedd cangen o’r gamlas yn cynnig cyfle i bobl leol anfon eu cynnyrch i farchnadoedd oedd ymhellach i ffwrdd.
Enillai’r mwyafrif o’r bobl eu bywoliaeth ar y tir ond roedd eraill yn ennill eu bywoliaeth trwy gynnig gwasanaethau i’r gymuned (e.e. gofaint, melinwyr, certwyr, a.y.b.).

Cymharwch y graff hwn â rhai o blwyfi eraill yr ardal.
A yw’r duedd gyffredinol yr un fath ?
Os yw’r duedd yn wahanol, ym mha ffordd mae’n wahanol ?

 
 

Yn ôl i ddewislen poblogaeth Y Trallwng

.