Y
Trallwng a'r cylch Ar ôl i’r Arolygwr
Ysgolion ymweld â phob ysgol yn ei ddalgylch, byddai crynodeb
o’i adroddiad yn cael ei gopïo i’r Llyfr Log. "I think a stronger
term might be applied to all the boys but two in the first Standard, where
on the other hand the girls are very bright and intelligent"... Yn ôl i ddewislen
ysgolion
Y Trallwng
Bywyd ysgol
Bechgyn
twp a merched clyfar
Roedd Adroddiad yr Arolygwr ar Ysgol y Vaenor
yn 1884 yn dweud iddo orfod cymryd
llawer o bethau i ystyriaeth wrth drafod yr holl broblemau a wynebai’r
ysgol...
1884
"...It
has been closed on account of sickness for seven weeks since the last inspection,
the Mistress has lately been ill, and a large influx of new scholars has
poured in, many of whom are most obviously dull"...
Yr hyn roedd eisiau ei ddweud, mewn gwirionedd oedd
fod y bechgyn i gyd yn y dosbarth ieuengaf (ar wahân
i ddau !) braidd yn dwp – ond bod y merched
i gyd yn glyfar ! Credai ei fod yn annheg i weld bai ar yr athrawes "who
has done her work with great care and industry".
Ond nid oedd Arolygwyr Ysgolion yn garedig wrth athrawon bob amser. Yn
ôl Adroddiad yr Arolygwr ar Ysgol Gunrog
yn 1883 byddai’n rhaid i’r athrawes
newydd
weithio’n galetach gyda’r plant ddysgwyd gan yr Ysgolfeistr oedd yn gadael
nag a fyddai’n rhaid iddi gyda phlant oedd yn dechrau’r ysgol. Y rheswm
am hynny oedd ei fod yn athro anobeithiol
a byddai’n rhaid iddi "ddad-ddysgu’r" pethau yr oedd hwnnw wedi’u dysgu
iddynt !