Y Trallwng a'r cylch
Bywyd ysgol
  Anfon Willie Roberts adref – eto !  
 

Weithiau mae’r un enwau i’w gweld dro ar ôl tro ar dudalennau Llyfrau Log swyddogol yr ysgolion Fictoraidd – oherwydd camymddwyn fel rheol !
Gwelwyd enw Willie Roberts yn rheolaidd yng nghofnodion Ysgol Gunrog Road yn 1891 ac 1892, am ei fod yn cael ei anfon adref o hyd i ’molchi neu i dwtio’i hunan ! (Ond cofiwch fod llawer o blant yn gorfod ’molchi mewn dwr oer a rhewllyd, ac nid oedd cartrefi cynnes a pheiriannau golchi’n rhan o’u bywyd...)

9 Medi
1891
School diary entry "Sent Willie Roberts home to have his face washed. I Class kept in till half past twelve for careless reading".
27 Hydref
1891
School diary entry "Sent Willie Roberts home to have his face washed and a clean collar on".
3 Tachwedd
1891
School diary entry "Sent Willie Roberts home to be washed and his boots cleaned".
14 Rhagfyr
1891
School diary entry "Mary Jane Williams and Willie Roberts sent home for coming untidy".
27 Chwefron
1892
School diary entry "Taught 1st Class how to read plan of School..."
 

"... Sent Willie Roberts home for a clean pinafore".
Fel arfer, dim ond y merched fyddai’n gwisgo pinaffor mewn ysgolion yn Oes Fictoria, ond yn Ysgol Gunrog Road fe ddysgwyd y bechgyn sut i wau a gwnïo hefyd !
Gellwch weld hyn ar dudalen arall. Anfonwyd Willie Roberts adref eto ar Fehefin 15fed, ond ni fu sôn amdano yn y dyddiadur wedi hynny – efallai ei fod wedi gwneud gwell ymdrech i fod yn lân a thaclus !

Yn ôl i ddewislen ysgolion Y Trallwng