|
Maent yn defnyddio cofnodion o Lyfrau
Cofnod swyddogol neu ddyddiaduron yr ysgolion lleol. Yn aml,
mae’r rhain yn dweud wrthym am fywyd y cartref yn yr ardal ar yr adegau
hynny yn ogystal â bywyd arferol yr ysgol ei hunan.
Nid oedd y rhan fwyaf o blant yn mynd
i’r ysgol ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines Fictoria. Byddai plant tirfeddianwyr
cyfoethog yn cael eu haddysgu yn y cartref a byddai rhai masnachwyr yn
yr ardal yn anfon eu plant i ysgolion preifat.
Roedd rhaid i blant y tlawd fynd i
weithio cyn gynted ag yr oeddynt yn ddigon hen i ennill arian i’w teuluoedd.
Yn aml, roeddynt yn colli gwersi i helpu ar y fferm a gwaith eraill i’w
rhieni.
|
|