Trefaldwyn a'r cylch
Bywyd ysgol
Tair ceiniog y plentyn fesul wythnos  
  Nid oedd dod o hyd i’r ‘geiniog ysgol’ ar gyfer gwersi’r plant yn hawdd i lawer o rieni yn ystod oes Fictoria. Nid yw’r symiau hyn yn edrych yn fawr yn awr ond nid oedd gweithwyr yn y wlad yn ennill llawer iawn o arian.
Daw pob un o’r enghreifftiau hyn o Lyfr Cofnod Ysgol Llandysul...
Victorian penny
21 Tachwedd
1864
School diary entry "Braddock's children at home because their parents have no money"...
4 Gorffennaf
1864
School diary entry
 
Victorian penny 4 Gorffennaf - "Jane & Elizabeth Jones left school in consequence of not supplying them with copybooks until their quarter was paid".
Nid oedd llawer o ysgolion yn gadael i ddisgyblion ddod i’r ysgol oni bai eu bod yn talu’n gyson. Yn aml, byddai plant yn cael eu hanfon adref ar unwaith i nôl yr arian cyn iddynt eistedd yn y dosbarth
.
Ni fyddai llawer o’r plant hynaf yn cael eu hanfon i’r ysgol gan eu rhieni gan fod angen eu help ar y fferm ac nid oeddynt yn gallu fforddio talu am weithwyr eraill.
7 Rhagfyr
1877
School diary entry
Victorian penny
 

7 Rhagfyr - "Usual routine unbroken. Mr Morris the gardener and Mrs Morgans, the Fron, called to pay their raised fees - 3d per child per week - both have grumbled considerably".
Parhau wnaeth y cwyno am y geiniog ysgol hyd nes y sefydlwyd yr ysgolion rhad ac am ddim yn y rhan fwyaf o ardaloedd yn 1891.

Yn ôl i ddewislen ysgolion Trefaldwyn