Trefaldwyn Fictoriaidd
  Trefaldwyn ac ardal y ffin  
 

Trefaldwyn oedd prif dref Sir Drefaldwyn ac o’r dref hon y byddai bywyd cyhoeddus y Sir yn cael ei redeg. Cafodd y llysoedd eu cynnal yma ac adeiladwyd carchar y Sir yma ar gyrion y dref.

Fel yr aeth oes Fictoria yn ei blaen, tyfodd trefi cyfagos yn nyffryn Hafren mewn maint a phwysigrwydd. Yn fuan, daethant yn bwysicach na Threfaldwyn o ran masnach a gwaith.

 

Gan fod y cymunedau gwledig hyn mor agos at y ffin, roedd ganddynt gysylltiad agos â Sir Amwythig erioed.
Fel y cymunedau eraill ar ein gwefan, gwelwyd newidiadau yn Nhrefaldwyn a’r pentrefi cyfagos yn ystod teyrnasiad y Frenhines Fictoria.
Dewiswch o’r pynciau a welwch chi nesaf i edrych ar rai o’r newidiadau hyn:

 

Fe fyddem yn ddiolchgar dros ben i gael unrhyw atborth gan athrawon, plant, ac eraill sydd â diddordeb yn ein prosiect.

Anfonwch e-bost at Gavin Hooson os oes gennych unrhyw sylwadau yr hoffech eu gwneud:

gavin@powys.gov.uk

Diolch am eich help.

 

 
 
 
Ennill bywoliaeth
 
Rhai o fapiau ardal yn ystod oes Fictoria
 
Yn ôl i dop
Ewch i’r ddewislen lleoedd