Trefaldwyn a'r cylch
Bywyd ysgol
  Mae’r awr gyntaf ar gyfer sychu’ch hunan...  
"Have a great difficulty in keeping school clean. Children grumble about
doing it".

Ysgol Llandysul,
Gorffennaf 1875.

Children round the fireRoedd y plant hynny oedd yn gorfod cerdded milltiroedd i’r ysgol yn aml yn gweld fod yr ystafell ddosbarth cyn oered ag yr oedd hi tu allan. Roedd rhaid iddynt gymryd eu tro i gyrraedd yn gynnar i sgubo’r ystafell ddosbarth a chynnau’r tân - neu ceisio gwneud hyn, os oedd y coed yn wlyb !
Weithiau, byddai’r inc yn y potiau inc ar y desgiau yn rhewi’n gorn dros nos !
Daw’r darnau hyn o Lyfr Cofnod Ysgol Llandysul yn 1888...

Ysgol Llandysul
"Very poor fires. Children were shivering with cold. Mrs Williams sent horse and cart for school coal".
Chwefror 1870
"Caned David Brown for disobeying my orders in not sweeping".
Hydref 1875

9 Tachwedd
1888
School diary entry "We have had fires regularly this week: the east wind has been intensely cold, so cold that the children could scarcely hold their pens".
16 Tachwedd
1888
School diary entry "Very wet week. During the first hour of each morning we have done very little else besides drying wet boots and pinafores: otherwise the attendance has been fair and the routine unbroken".
Roedd y tywydd bob tro yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r nifer a ddaeth i wersi yn ysgolion y sir fel yn yr enghraifft hon o Ysgol Llandysul yn 1889...
16 Awst
1889
School diary entry
"The weather still keeps very wet, and girls who have to pass through cornfields staw away rather than get a wetting"...
 

Roedd hyn ym mis Awst, sef yn yr haf mae’n debyg ! Gan fod yn rhaid i’r plant ieuengaf gerdded i’r ysgol, roedd llawer yn cael eu cadw gartref yn ystod misoedd y gaeaf.

Yn ôl i ddewislen ysgolion Trefaldwyn