Trefaldwyn
a'r cylch "Punished
the two Browns for being absent yesterday, they said that some boy had
enticed them away to the lime-kilns". Yn ôl i ddewislen
ysgolion Trefaldwyn
Bywyd ysgol
Ysgol
wedi’i hagor ond dim ond dau a ddaeth...
Yn y dyddiau
cynnar, roedd yr ysgol yn ei chael hi’n amhosibl bron i gael plant i ddod
i’r ysgol yn rheolaidd. Byddai rhieni
yn aml yn eu cadw gartref i helpu gyda gwaith y fferm neu i edrych ar ôl
brodyr neu chwiorydd iau. Byddai llai o blant yn mynd i’r ysgol pan fyddai
marchnadoedd a ffeiriau lleol yn cael eu cynnal.
Daw’r darn hwn o Lyfr Cofnod o Ysgol Mellington
yn 1890...
1890
Ysgol Llandysul, Ebrill 1876.
May 13th - "Three
present this morning".
May 14th - "Five
present. No registers marked".
May 15th - "Three
present. No registers marked".
Daw’r darn
a welwch chi yma ar y dde o Ysgol Llandysul
yn 1892. Mae un o’r rhesymau mwyaf anarferol
dros golli gwersi yn cael ei nodi yn y darn a welwch chi nesaf o’r un ysgol
yn 1867...
1867
Yn fwy na thebyg roedd yr odynau
calch (lime-kilns) ar hyd ochr
y gamlas a byddai wedi bod yn ddiddorol gweld y rhain yn cael eu defnyddio.
Gallwch weld mwy amdanynt hwy ar un o’n tudalennau ar Gamlas Sir Drefaldwyn.