Mae’r esgidiau cryfion hyn wedi eu gwneud ar gyfer cerdded… |
Yn ystod
cyfnod Fictoria, roedd esgidiau cryfion
yn rhan hanfodol o wisg ysgol plant y wlad. Roedd rhaid i lawer o blant
gerdded milltiroedd i’r ysgol ar draws caeau a thraciau garw dros fryniau,
ym mhob tywydd. Mae hen luniau o grwpiau plant yn yr ysgol (megis yr un a welwch chi ar y dde) yn dangos bod esgidiau cryfion gan hyd yn oed y plentyn lleiaf i amddiffyn eu traed rhag dir garw a mwdlyd. Mae’r darnau nodweddiadol hyn o Lyfr Cofnod Ysgol Mellington yn dangos bod problemau gyda’r hyn oedd o dan draed yn aml ac yn enwedig yn y gaeaf, yn golygu nad oedd plant yn mynd i’r ysgol. Nid oedd unrhyw deithiau cysurus yn y car neu’r bws i’r plant hyn ! ... |
![]() |
16
Rhagfyr
1884 |
![]() |
"George Williams The Barns is away from school with sore feet". |
11
Rhagfyr
1885 |
![]() |
"Alice Davies is away from school, her mother says she has no boots to come in". |
10
Rhagfyr
1889 |
![]() |
"Mrs Trow has sent word that Edward cannot get his boots on to come to school as he has chilblains so badly". |
13
Ionawr
1890 |
![]() |
"Fanny Lloyd has sore feet and cannot get her boots on, so has to stay at home". |
Roedd llawer o deuluoedd yn brin iawn o arian ac nid oedd rhai rhieni yn gallu fforddio cost yr esgidiau cryfion yn ogystal â ffioedd yr ysgol (a elwid yn ‘geiniog yr ysgol’) i’w plant. Yn ôl i ddewislen ysgolion Trefaldwyn
|
||