Trefaldwyn a'r cylch
Bywyd ysgol
  Mae’r angylion yn galw’n awr  
 

Mae Llyfrau Cofnod oes Fictoria bron bob tro yn dangos gymaint o ofn oedd arnynt i fynd i’r ysgol pan oedd afiechydon difrifol yn bresennol yn yr ardal. Gan fod plant yn dod i’r ysgol o bell, roedd yn hawdd iawn lledaenu afiechydon.
Daw hwn o ddyddiadur Ysgol Llandysul yn 1868...

Engraving of sick child
19 Tachwedd
1868
School diary entry
19 Tachwedd - "Heard that Ellen Owen, Cefnycoed was dead. William and Maurice are still ill of scarlet fever. Taught the children "The angels now are calling".
Gydag un ferch fach yn farw a dau fachgen yn sâl iawn, nid oedd dysgu cân am angylion yn galw yn debygol o helpu!
"There is such a scare about diptheria, and parents are getting alarmed, so I have closed the school for a month".
Ysgol Llandysul, Awst 1892.
28 Gorffennaf
1879
School diary entry
Mae hwn o Lyfr Cofnod Ysgol Mellington yn 1879. Dolur gwddw un diwrnod a marw y diwrnod wedyn o ‘diptheria’. Roedd yr afiechyd hwn yn aml yn arwain at farwolaethau yn oes Fictoria.
 

28 Gorffennaf - "M.J.Bowen very unwell with sore throat".
29 Gorffennaf - "Mary Jane Bowen dead from the complaint in her throat. Acquaint Mr Wright of Diptheria being in the neighbourhood, also of the death".

Fel y gallwch weld o gofnodion ysgolion eraill ar ein gwefan, roedd marwolaeth o ganlyniad i afiechydon mor gyffredin ar un adeg fel na chafodd llawer o’r plant a gollwyd eu henwi’n y Llyfrau Cofnod.

Yn ôl i ddewislen ysgolion Trefaldwyn