Trefaldwyn a'r cylch
Bywyd ysgol
  Ysgol ragorol iawn  
 

Byddai’r mwyafrif o ysgolion yn derbyn ymweliadau rheolaidd gan yr Arolygwr Ysgol ac roedd rhaid nodi prif bwyntiau ei adroddiad swyddogol yn Llyfr Cofnod yr Ysgol. Roedd yr adroddiadau hyn yn gwneud sylwadau ar y dysgu, gallu’r plant ac adeiladau a chyfarpar yr ysgol - megis y darn hwn o Ysgol Llandysul yn 1867...

Roedd Ysgol Llandysul yn 1867 yn fodel o ysgol sirol ragorol oherwydd ei bod yn dda iawn, nid oherwydd ei bod yn fach iawn !
18 Tachwedd
1867
School diary entry Inspector's Report.
"Llandyssil National School - The buildings, furniture, apparatus, and books are of a very superior character. I consider it in this respect quite a model country school, forming a pleasing contrast to the poverty stricken appearance of some of them"...
  Roedd yr Arolygwr yn meddwl bod Llandysul yn dda gan fod nifer o ysgolion eraill y Sir yn ystod y cyfnod mewn cyflwr gwael, gyda thoeon yn gollwng dwr a waliau llaith.
Roedd sôn hefyd am ymddygiad y ‘scholars’ a sut yr oeddynt yn edrych yn rhan o’r adroddiadau hyn, fel gyda’r enghraifft hon yn 1885 o Ysgol Mellington...
Untidy scholar
A ydy o’n
golygu fi ?
3 Mawrth
1885
School diary entry
 

3 Mawrth - "The children are well mannered and orderly, and with two exceptions very neat and clean".
Nid yw’r Llyfr Cofnod yn dweud wrthym pwy yw’r two exceptions' !

 

Yn ôl i ddewislen ysgolion Trefaldwyn