Trefaldwyn a'r cylch
Bywyd ysgol
  Dim ysgol - rydym yn cludo rhisgl am fis !  
Mae’r llun a welwch chi gyferbyn yn dangos gweithwyr yn y tanerdy yn Rhaeadr, yn dal crwyn lledr i’w trochi mewn pydew trochi.

Weithiau byddai plant yn colli gwersi ysgol gan eu bod yn gallu ennill arian i’w teuluoedd drwy helpu gyda gwaith tymhorol. Un o’r rhain oedd ‘cludo rhisgl’, neu ‘barking’ yn y Saesneg. Roedd angen y rhisgl ar gyfer y diwydiant trin lledr.
Pan fyddai coed derw yn cael eu torri i lawr, byddai’r rhisgl yn cael ei dynnu oddi ar y boncyff, gyda’r plant lleol yn ei gasglu a’i roi mewn cert i’w gludo i’r tanerdy lleol.
Mae’r darn hwn o Lyfr Cofnod Ysgol Llandysul yn 1865...

Tannery workers
28 Ebrill
1865
School diary entry
"The attendance is diminishing. Children engaged carrying bark in the woods and potato-setting.The bark carrying will probably continue a month or more".
Byddai stribedi o risgl yn cael eu malu yn dalpiau bychain a’u gosod mewn pydew trochi. Yna, byddai crwyn yn cael eu trochi mewn cymysgedd o risgl coed derw a dwr am gyfnodau hir.
Hydref oedd yr amser i gasglu mes yn y coedwigoedd. Roedd y rhain yn cael eu hadnabod fel 'mast' a chasglwyd symiau mawr ohonynt a’u gwerthu i ffermwyr i fwydo moch.
Dyma Ysgol Llandysul eto, o 1868...
Pig
Rwyf wrth fy modd â mes !
15 Hydref
1868
School diary entry
"Fewer children at school than there has been for a long time: most are away picking acorns as the wind has been rough and has blown them off the trees".
 

Yn dilyn y corwynt hwn, casglwyd "19 bushels" [692 litr !] o fes gan fachgen lleol a gwerthodd y rhain am 2 swllt y ‘bushel’, gan wneud swm sylweddol o arian yn 1868.
Ysgrifennodd athro lleol "No wonder parents keep their children away" yn nyddiadur yr ysgol !

Yn ôl i ddewislen ysgolion Trefaldwyn