|
Ar y tudalennau yma cewch weld sut
roedd bywyd yn yr ysgolion yn niwedd oes Fictoria. Cewch weld y cofnodion
gwreiddiol
yn y dyddiaduron swyddogol ac yn Llyfrau Cofnodion
yr ysgolion lleol. Yn aml iawn bydd y rhain yn dweud llawer am y gymuned
leol hefyd, ac nid am yr ysgol yn unig.
Ar ddechrau teyrnasiad Fictoria nid oedd y rhan fwyaf o blant yn mynd
i'r ysgol.
Byddai'r tirfeddianwyr cyfoethog yn
trefnu i'w plant hwy gael eu dysgu gartref. Byddai'r bechgyn hyn yn cael
eu hanfon i ysgolion preswyl.
Roedd y bobl busnes oedd yn gallu
fforddio talu, yn anfon eu plant i'r ysgol breifat leol.
Ond roedd rhaid i blant y bobl dlawd
fynd i weithio cyn gynted ag roeddent yn ddigon hen, am fod ar y teulu
angen yr arian ychwanegol.
Erbyn diwedd oes Fictoria, nid oedd rhaid talu
am fynd i'r ysgol, ac roedd rhaid i bob plentyn fynd i'r ysgol. .
|
|