Llanfair-ym-Muallt
Bywyd ysgol
  Ydy hi'n Amser mynd Ysgol eto ?  
Yn amser Fictoria doedd dim byd gan lawer o bobl i'w helpu i ddweud beth oedd hi o'r gloch. Roedd clociau a watsys yn rhy ddrud o lawer i'r mwyafrif o deuluoedd eu fforddio. Dim ond y bobl gyfoethog yn yr ardal oedd yn berchen wats neu gloc.
Erbyn hyn mae gan bawb wats a chloc, a gallwch ddweud beth yw hi o'r gloch oddi ar y teledu , y radio, neu'r ffôn. Ond meddyliwch am geisio dyfalu'r amser wrth edrych ar lle roedd yr haul yn yr awyr (pan oedd haul ?) neu wrth edrych ar ba mor dywyll oedd hi.
Yn y diwedd roedd cloch ysgol gan y rhan fwyaf o ysgolion. Byddai'r athro'n canu'r gloch tua deng munud cyn marcio'r gofrestr. Gallwn weld o Lyfr Cofnodion ysgol Llanddewi'r Cwm nad oedd gan yr ysgol hon gloch eto yn 1880...
Teacher ringing school bell
Ebrill 22ed
1880
School diary entry
 

"Several children late today. A school bell is much needed. It is impossible for the scholars to know the time as the school stands so far away from any houses".

Y gair am blant ysgol yn llyfr cofnodion yr ysgolion Fictoraidd oedd 'Scholars'.

Yn ôl i ddewislen ysgolion Llanfair-ym-Muallt

 

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair-ym-Muallt