Llanfair-ym-Muallt
Bywyd ysgol
Dod â llawer o bethau mân i'r ysgol | ||
Mae llawer wedi newid yn yr ysgolion
ers y dyddiau hynny,fel y gallwch weld wrth ddarllen y sylwadau mewn Llyfrau
Cofnodion neu ddyddiaduron yr ysgolion Fictoraidd. |
22
Tachwedd
1886 |
Dyma enghraifft o hen ffefryn gyda
phlant, o ddyddiadur Ysgol Llanddewi'r
Cwm, dyma sydd ynddo yn 1886
- Roedd y manion bethau roedd y plant yn eu cymryd i'r ysgol yn bethau roeddent wedi dod o hyd iddynt ar eu ffordd i'r ysgol. Yng nghefn gwlad roedd rhaid i lawer o'r plant gerdded cyn belled â phum milltir, dros gaeau neu ar hyd lonydd garw i fynd i'r ysgol. Pethau tebygol fyddai mes o'r dderwen, moch coed o'r coed pîn, wyau adar, cerrig anghyffredin, dail, ac efallai hen arian oedd wedi eu codi gan aradr y ffermwr. Yn ôl i ddewislen ysgolion Llanfair-ym-Muallt
|
||