Llanfair-ym-Muallt
Bywyd ysgol
Y presenoldeb yn dal yn isel iawn. | ||
Bydd bron pob cofnod yn y Llyfr Cofnodion
swyddogol neu yn nyddiadur y mwyafrif o ysgolion Fictoraidd yn dechrau
drwy gyfeirio at nifer y plant a ddaeth
i'r ysgol yn ystod y bore neu'r prynhawn. |
17
Iohawr
1879 |
|
Mae hwn yn gofnod nodweddiadol iawn
o Ysgol Llanganten - Roedd athrawes dysgu pwytho yn y
rhan fwyaf o'r ysgolion. Roedd hi'n dod i ddysgu'r merched i bwytho ar
rai diwrnodiau. Yn Ysgol Llanganten yn 1879
roedd hi'n dod am ddau brynhawn yr wythnos. |
Nawr
– beth am y plant hynny oedd yn absennol o'r ysgol
? Beth fyddent yn ei wneud pan y dylent fod yn yr ysgol? Edrychwch ar y dudalen nesaf…. Dim amser i fynd i'r ysgol. Rhy brysur o lawer...
|
||