Llanfair-ym-Muallt
Bywyd ysgol
  Lladd gwair  

Y gwaith fferm tymhorol oedd un o'r rhesymau mwyaf cyffredin am i blant cefn gwlad gael eu cadw o'r ysgol.
Roedd y rhan fwyaf yn aros gartref yn ystod y cynhaeaf gwair, ac roedd y mwyafrif o ysgolion cefn gwlad yn ceisio trefnu'r gwyliau haf, neu'gwyliau'r cynhaeaf' i gydredeg â'r gwaith ar y fferm.
Mae'r cofnod isod o lyfr cofnodion Ysgol Llanganten yn dod o'r adeg yn union o flaen y gwyliau yn Awst 1880...

Boys haymaking
13 Awst
1880
School diary entry
Powys County Archives
 

August 13th - "The attendance this week has been low, several children being away from school, helping with the hay".

Ailagorodd ysgol Llanddewi'r Cwm ar ddiwedd mis Awst 1892, ac nid oedd un plentyn yn bresennol !
Yn oes Fictoria roedd angen nifer fawr o bobl a phlant i helpu gyda'r gwaith fferm. Erbyn hyn, gall peiriannau fferm anferth wneud y gwaith hwn mewn amser byr iawn.
Ond ar wahân i waith y cynhaeaf, roedd yna waith arall i'r plant ei wneud yn yr hen amser. Yng nghofnodion eraill yr ysgol mae yna gyfeiriad at drochi defaid, codi tatws, a helpu gyda chasglu rhisgl coed ar gyfer gwneud lledr.

Yn ôl i ddewislen ysgolion Llanfair-ym-Muallt

 

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair-ym-Muallt