Llanfair-ym-Muallt
Bywyd ysgol
  I ffwrdd â ni i'r Syrcas !  
  Os oedd yna unrhyw beth anghyffredin neu gyffrous yn y cylch yn oes Fictoria, yna byddai'n well gan y rhan fwyaf o blant ysgol fynd i'w weld yn lle mynd i'r ysgol !
Doedd dim rhaglenni teledu, na ffilmiau, na recordiau na gemau cyfrifiadur ar yr adeg, does dim rhyfedd felly fod y plant yn dewis mynd i weld y ffair neu'r syrcas pan fyddent yn dod i'r ardal.
Dyma enghreifftiau o Lyfrau Cofnodion yr ysgolion lleol.
Victorian circus
Ysgol
Llanganten
1878
School diary entry
Ysgol
Llandewi'r Cwm
1888
School diary entry
Ysgol
Llandewi'r Cwm
1897
School diary entry
 

28th June 1878 - "The attendance on Thursday was low, owing to its being 'Fair Day' ".
20th December 1888 - "No children present owing to a large Market at Builth".
10th November 1897 - "Very Poor Attendance today owing to a Circus at Builth. 31 present this morning and 18 this afternoon"

Cynhaliwyd y Farchnad Fawr yn Llanfair-ym-Muallt yn ystod yr ychydig o ddiwrnodau cyn y Nadolig yn 1888. Mae'n debyg na allai'r plant faddau i'r nifer fawr o bethau Nadolig oedd ar werth yma.
Roedd yna ddigwyddiadau rheolaidd eraill oedd yn mynd â'r bechgyn o'r ysgol bob blwyddyn, fel y gallwch weld ar y dudalen nesaf.

Y bechgyn yn mynd i guro...

 

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair-ym-Muallt