Llanfair-ym-Muallt
Bywyd ysgol
  Bechgyn oedd yn well ganddyn nhw guro  
 

Rheswm arall am beidio mynd i'r ysgol yn oes Fictoria oedd fod ennill arian am 'guro’ i’r tirfeddianwyr lleol yn atyniad mawr.
Byddai’r tirfeddianwyr hyn yn trefnu saethu ffesantod iddynt ei hunain ac i'w gwesteion cyfoethog yn ystod y tymor. Gwaith y ciper fyddai gofalu bod digon o adar ar gael yn ystod y tymor i'w gwesteion gael eu saethu.
Byddai rhai o'r bechgyn hyn o'r ysgolion lleol yn cael eu cyflogi i godi'r adar o'r llwyni er mwyn i'r saethwyr eu saethu wrth i'r adar hedfan dros ben.

 
Hydref 5ed
1893
School diary entry
 

Dyma enghraifft o Lyfr Cofnodion Llanddewi'r Cwm ar gyfer 1893
5th October - "Several of the elder boys absent "beating" for the gentlemen who are shooting"

Roedd llawer o'r athrawon yn anfodlon iawn ynghylch absenoldeb cymaint o'r plant yn ystod y tymor saethu. Ond nid oeddent yn cwyno'n aml am fod y bobl fonheddig leol yn bobl â llawer o ddylanwad ganddynt. Roedd yr athrawon yn gofalu peidio'u digio, ond weithiau byddent yn cwyno'n dawel yn y Llyfrau Cofnodion. .

Yn ôl i ddewislen ysgolion Llanfair-ym-Muallt

 

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair-ym-Muallt