Llanfair-ym-Muallt
Bywyd ysgol
  Welodd unrhyw un Theophilus yn ddiweddar ?  
 

Nid peth anarferol oedd i rai o'r plant fod yn absennol o'r ysgol am wythnosau neu fisoedd bwy gilydd. Weithiau afiechyd oedd yr achos am hyn, ac roedd afiechydon yn gyffredin iawn yn oes Fictoria, ond yn llawer llai cyffredin erbyn heddiw.
Mae'r cofnod hwn o gofnodion Ysgol Llanddewi'r Cwm am Dachwedd 1889...

 
5 Tachwedd
1889

School diary entry

  5th November - "Theophilus Jones and David Griffiths returned to School after (Jones) ten months, and (Griffiths) three months absence".
Nid yw'r Llyfr Cofnodion yn dweud pam fod y bechgyn hyn yn absennol o'r ysgol am gyfnod mor hir. Y rheswm mwyaf tebygol oedd gwaeledd. Ond weithiau nid oedd y rhieni'n hidio rhyw lawer am wersi ysgol i'w plant.
 
20 Hydref
1883

School diary entry

"Lennards and Evans's again
absent. Although the parents
have been repeatedly spoken
to they pay no attention".
 

Mae'r cofnodion uchod yn dod o Lyfr Cofnodion Ysgol Llanganten am 1883. Mae'n rhaid fod gan y teuluoedd Lennard ac Evans ddau blentyn o leiaf ar lyfrau'r ysgol hon.
Mae'n o debyg nad oeddent yn dod i'r ysgol yn aml iawn. Roedd ar rai rhieni eisiau i'w plant aros gartref i helpu ar y fferm ac yn y ty, ac wedyn mynd i weithio am gyflog i helpu cynnal y teulu.
Mae mwy o enghreifftiau o blant oedd yn aros gartref ar y dudalen nesaf.

Helynt gyda'r merched hefyd …

 

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair-ym-Muallt