Llanfair-ym-Muallt
Bywyd ysgol
  Eu hanfon adref am fod yn rhy frwnt  
 

Er bod llawer o'r cofnodion yn dweud bod y plant yn lan ac yn drwsiadus, mae yna rai cofnodion sydd yn dangos nad felly roedd hi bob tro i bawb. Mae'r sylwadau yn ymddangos fel arfer yn adroddiadau'r arolygydd ysgolion.
Mae'r achos sydd yma wedi digwydd rywbryd yn ystod 1898 pan fu rhaid i'r athro yn Ysgol Llanddewi'r Cwm gwyno…..

 
14 Ionawr
1898
School diary entry
 

Dyma sydd yn y Llyfr Cofnodion -
"Was obliged to send James Price home yesterday owing to the filthy condition of his clothes".

Nid yw'n syndod mai canol gaeaf oedd hi pan gafodd hyn ei ysgrifennu yn y dyddiadur ysgol. Roedd llawer o deuluoedd oes Fictoria yn dlawd dros ben, ac ychydig iawn o arian oedd ganddynt i brynu tanwydd i'r tân a'r stôf.
Byddai'r dillad a oedd yn cael eu golchi yn y gaeaf yn sychu'n araf iawn, a does dim rhyfedd nad oedd y plant yn rhy awyddus i ymolchi mewn dwr rhewllyd cyn cerdded i'r ysgol.
Cofiwch nad oedd y peiriannau byddwn ni'n eu cymryd yn ganiataol fel gwres canolog, bath poeth, a chawod boeth yn rhan o fywyd James Price.

Yn ôl i ddewislen ysgolion Llanfair-ym-Muallt

 

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair-ym-Muallt