Llanfair-ym-Muallt
Bywyd ysgol
Gwaith i'r genethod | ||
Ychydig o fathau
gwahanol o waith oedd ar gael i enethod ifanc oedd yn gadael
yr ysgol yn oes Fictoria. |
9fed
Ionawr
1882 |
13ydd
Chwefror
1882 |
Yn aml iawn byddai dyddiaduron yr
ysgolion cynnar yn cofnodi enwau'r plant oedd yn gadael i fod yn weision.
Dyma ddwy enghraifft o'r Llyfr Cofnodion yn Ysgol
Llanddewi'r Cwm yn 1882 Nid y genethod yn unig oedd yn mynd i weini. Mewn cyfnod pan roedd gweision yn cael ychydig iawn o gyflog, roedd y mwyafrif o'r tai mawr yn cyflogi nifer fawr o ddynion ac o wragedd yn weision hefyd. Roeddent yn gwneud gwaith cogyddes, morwyn, garddwr, gweithiwr ar y stâd, a llawer o swyddi eraill. Yn ôl i ddewislen ysgolion Llanfair-ym-Muallt
|
||