Llanfair-ym-Muallt
      Bywyd ysgol  
| Yr ysgol ar gau - y dwymyn yn y plwyf. | 
| Roedd yr 
      ysgolion cynnar bob amser yn bryderus iawn ynghylch lledaenu heintiau peryglus 
      pan fyddai'r plant o'r cylch eang o amgylch yr ysgol yn dod at ei gilydd 
      i gael gwersi. Roedd yr heintiau fel y dwymyn goch, y frech goch, y clefyd coch a'r pâs (scarlet fever, measles, diptheria, whooping cough) yn gyffredin dros ben yn y cyfnod Fictoraidd, ac roedd yr ysgolion ar gau am wythnosau, neu hyd yn oed am fisoedd o 'u hachos. Dyma eiriau o Lyfr Cofnodion Ysgol Llanddewi'r Cwm ... |  | 
|  
        Tachwedd 10fed 1879 |  | 
| "Sickness still continues with the country children. The Town children attend pretty regularly". | 
|  
         Rhagfyr 5ed 1879 |  | 
| "School closed for a month on account of Fever in the Parish, by order of the Board". | 
|  
        Gorffennaf 6ed 1891 |  | 
| "Attendance still very thin. Several children ill with whooping cough. Three fresh cases of whooping cough". Roedd llawer o heintiau'n gallu lledaenu'n gyflym iawn, ac roedd y plant oedd â haint yn y teulu yn cael eu gwahardd o'r ysgol am gyfnod. Peth cyffredin iawn oedd plant yn marw o heintiau fel y dwymyn goch a'r clefyd coch yn oes Fictoria. . Yn ôl i ddewislen ysgolion Llanfair-ym-Muallt 
 | ||