Llanfair-ym-Muallt
Bywyd ysgol
  Cychwyn ardderchog  
 

Mae llawer o gyfeiriadau yn Llyfrau Cofnodion yr ysgolion at y nifer o broblemau byddai'n rhaid i'r ysgolion cynnar fynd i'r afael â hwy. Gallwch weld beth oedd rhai o'r anawsterau hyn ar dudalennau'r wefan hon. Gallwch weld mai Saesneg yn unig oedd iaith pob ysgol. Ac roedd rhaid i'r plant siarad Saesneg â'i gilydd.

Er hynny, roedd llawer o'r ysgolion yn dal i lwyddo i roi cychwyn da mewn bywyd i'r plant. Cewch weld adroddiadau swyddogol yr Arolygwyr Ysgolion yn y dyddiaduron ysgol, Mae'r un sydd yma o Ysgol Llanganten yn 1878.

 
6 Awst
1878
School diary entry
 

"This school has made a very good and satisfactory beginning. The work was of course very elementary, but the children were bright and well behaved, and the instruction is sure to improve under the master who seems to be a painstaking and efficient man".

Yn oes Fictoria byddai'r pres a fyddai'r ysgol yn ei dderbyn yn dibynnu'n aml iawn ar y marciau roedd y plant yn eu hennill yn arholiadau'r ysgol. Y broblem fwyaf oedd fod llawer o blant yn absennol o'r ysgol am nifer o resymau. Roedd hyn yn golygu eu bod yn colli llawer o wersi, ac efallai y byddent yn methu yn yr arholiad. Byddai'r ysgolion wrth eu bodd derbyn adroddiad da fel hwn.
Mae yna enghraifft o arolwg ysgol leol ar y dudalen nesaf...

Mae'r sbector yma ! ...

 

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair-ym-Muallt