Llanwrtyd
a’r
Cylch
Yfed y dwr
Y
ffynhonnau yn Llanwrtyd a Llangamarch
Er
nad oedd y ffynhonnau hyn mor fawr na mor enwog ag un Llandrindod yn bellach
i’r dwyrain, roedd trefi iechyd eraill yn llewyrchu yn oes Fictoria yn Llanwrtyd
a Llangamarch.
Roedd llawer
o’r bobl oedd yn ymweld â’r ffynhonnau yn gwisgo eu dillad gorau ac
yn cael tynnu llun i’w hatgoffa
o’r profiad fel y llun yma. Tynnwyd y llun hwn nesaf i un o adeiladau’r
ffynnon yn Llanwrtyd tua 1895.
Tra roedd
pobl gyfoethog a ffasiynol yn ymweld
â thref Llandrindod, roedd y ffynhonnau llai yn denu nifer o lowyr
a gweithwyr dur a’u teuluoedd o gymoedd
de Cymru. Roedden nhw angen gwyliau haf yn awyr iach y mynyddoedd
yn bendant!
Defnyddiwch y cysylltiadau
isod i gael mwy o wybodaeth am y ffynhonnau
llai yma…